Blog - Adloniant Y Barri i Bobl Ifanc
Croeso I blog sydd yn hyrwyddo’r Barri trwy codi ymwybyddiaeth o beth sy’n cael eu cynnig I bobl ifanc a’r hwyl o fewn mannau adnabyddus sy’n bodoli. I arddangos y lleoliadau sydd yn gyfarwydd i unigolyn lleol fel fy hun, ond yn dieithr i unigolyn sydd yn ymweld ag yr ardal. Pwrpas y blog yma yw i gymryd y golwg i ffwrdd o sglodion ar y traeth neu’r Prif Ddinas agos trwy Caerdydd, ac I bortreadu’r mwynhad a all deillio yn y mannau sydd yn dwfn o fewn diwylliant y Barri wrth barhau i ddarparu adloniant i unigolion o bob oedran, ond yn enwedig I denu pobl ifanc I rhoi cyfle i’r dref fach ar yr arfordir. Caiff ran fwyaf o’r ardaloedd yma eu hanwybyddu ar gyfer y traeth enfawr neu’r sioeau teledu clodfawr, ond y lleoliadau o fewn y blog yma sy’n dal yr hanes a rhinweddau sydd yn wneud y Barri.

Parc Sglefrio Bwrdd Richard Taylor
I'r llygad cyffredin, gall hyn ymddangos fel eich parc sglefrio bwrdd arferol, ond yn tu ol i’r hwyl a sbri sydd yn dychwelyd yma, mae yna stori fwy pur. Cafodd y parc ei adeiladu fel cofeb I Richard Taylor a oedd yn bencampwr sglefrio bwrdd Prydain a bu farw yn 2004. Dyn a gafodd ei fagu yn y Barri oedd Richard, ac mae’r gofeb yn ei anrhydeddu yn ddyddiol wrth Ii blant ac oedolion ifanc ymarfer eu sgiliau yno . Fel plentyn a oedd wedi tyfu i fyny lawr yr heol i’r parc, gallaf dweud fod y parc yn dal llawer o atgofion a diwylliant yno o’r Barri, er fy mod i ddim yn gallu sglefrio bwrdd!

Gwyliau Cerddoriaeth
GlastonBarry
Gwyl cerddoriaeth a chelfyddydau yw GlastonBarry. Cynhaliwyd y GlastonBarry cyntaf yn 2013, mae ei enw wedi’i ysbrydoli gan yr Wyl enfawr ‘Glastonbury’ yn Lloegr.’ Dros y blynyddoedd mae Glastonbarry wedi treiddio i ddiwylliant y Barry pob Haf. Mae’n wyl o befformiadau teyrnged, sy’n denu dros 6000 o bobl.
Gwyl Fach y Fro
Gwyl cerddoriaeth arall sydd yn deillio cymuned y Barri at ei gilydd yw Gwyl Fach y Fro, sydd yn gwyl a sefydlodd gan Menter Iaith Bro Morgannwg yn 2015, ac wedi parhau i hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeh a diwylliant ar lan y mor yn Y Barry pob Mis Mai ers hynny. Yn wrthgyferbynnol i Glastonbarry, gwyl sydd yn cryfhau ac yn parhau hunaniaeth a balchder cymreig yw Gwyl Fach y Fro, gan ganiatau I ysgolion lleol a grwpiau poblogaidd Cymraeg gymryd rhan. Wrth glywed cerddoriaeth yn llifo trwy strydoedd y Barri, gall deimlo diwylliant a chymuned y Barri.

Parc Jenner
Fel unigolyn sydd wedi tyfu I fyny yn y Barri, daw’n amlwg fod diwylliant chwaraeon yn elfen fawr sydd yn dod a’r ardal at ei gilydd. Uchod fe welir Parc Jenner, a agorir yn 1912 ac wedi fod yn gartref I Barry Town AFC sydd yn un o’r clybiau pêl-droed fwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Gall y delwedd uchod edrych fel cae arferol, ond o golwg unigolion o’r Barri symbol allweddol o gymuned ac adloniant ydyw, wrth gynnal mabolgampau ysgolion cynradd ac uwchradd y Barri yno ar wahan I’r pêl-droed. Yn bersonol, cefais pob mabolgampau erioed yno.